Cwestiynau Cyffredin Maethu

Foster girl raising hands to ask a question

Ein cwestiynau cyffredin a'n hymatebion am faethu...

Na!  Mae gan bawb brofiadau a gwybodaeth y gallant fanteision arnynt wrth faethu, boed yn hen neu'n ifanc. Gallech chi fod yn ofalwr maeth os oes gennych chi gartref diogel, amser i ymrwymo, a chariad i roi i blentyn neu berson ifanc.

Na, gallwch faethu mewn cartref sy’n cael ei rentu cyn belled â bod eich landlord yn cytuno.

Gallwch! Mae perchnogaeth anifeiliaid anwes ymhlith teuluoedd maeth yn gyffredin iawn. Mae cael anifeiliaid yn y cartref yn gallu bod o fudd mawr i blant maeth a phobl ifanc.

Na, mae gennym ni lawer o ofalwyr maeth sengl yn Calon Cymru. Fodd bynnag, bydd cael rhwydwaith cefnogi o'ch cwmpas yn hanfodol, hyd yn oed os yw hyn yn deulu a ffrindiau. 

Wrth gwrs! Yn Calon Cymru rydym yn falch o gael teulu amrywiol o ofalwyr maeth. Mae’r amrywiaeth hwn yn sicrhau ystod eang o gefndiroedd a phrofiadau a all fod o fudd i’r plant yr ydym yn gofalu amdanynt yng Nghymru.

Yn anffodus, dim ond gan bobl sy'n gallu gyrru y byddwn yn derbyn ceisiadau, gan fod apwyntiadau, cyfarfodydd a chludiant diogel yn bwysig iawn. Yn ogystal, bydd llawer o’r plant yn cadw cysylltiad â rhieni ac anwyliaid y byddai’n rhaid ichi fynd â nhw atynt. Mae’n bosibl hefyd na fyddai modd diwallu anghenion addysgol rhai pobl ifanc mewn ysgol leol.

Mae hyn yn dibynnu ar y lleoliad sydd gennych. Rhaid i chi fod ar gael i fynychu cyfarfodydd, a hyfforddiant, sicrhau bod eich plentyn maeth yn yr ysgol, ei gasglu, a'i oruchwylio, gan na all plant maeth fod gartref ar eu pen eu hunain. Os oes gennych swydd sy'n caniatáu i chi weithio'n hyblyg neu o gartref, gallwch drafod hyn gyda ni.

Nid yw bod â chofnod troseddol yn eich atal yn awtomatig rhag dod yn ofalwr. Fodd bynnag, bydd yn dibynnu ar y drosedd, pa mor bell yn ôl ydoedd ac ati. Os oes gennych gofnod troseddol, gallwch siarad â ni, a gallwn eich cynghori os yw'n broblem.

Dim o gwbl, rydyn ni bob amser yn chwilio am ofalwyr maeth o wahanol gefndiroedd, diwylliannau a chrefyddau. Siaradwch â ni heddiw

 

Ydych chi'n meddwl y gallwch chi newid bywyd plentyn neu berson ifanc lleol sy'n fregus?

Cysylltwch heddiw am sgwrs anffurfiol, gyfeillgar gyda'n cynghorwyr maeth profiadol.

Cysylltu â ni