Maethu fel gyrfa

Byddwch chi’n darparu cymorth sy'n newid bywydau i blant agored i niwed os ydych chi’n dilyn gyrfa faethu. Mae'n swydd werth chweil gydag effaith wirioneddol - bydd eich ymdrechion yn gwneud gwahaniaeth.

Fostering family walking through forest
CCF Fostering As A Career

Maethu fel gufra

 

Mae maethu yn yrfa heriol a gwerth chweil sy'n gofyn am empathi, amynedd ac ymroddiad rhagorol. Mae’r canlynol yn rhai rhinweddau a allai wneud rhywun yn addas ar gyfer swydd maethu...

Rhesymau pam y dylech chi ddilyn gyrfa faethu

Awydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywyd plentyn

Prif nod maethu yw darparu amgylchedd cartref diogel a sefydlog i blant sydd wedi cael eu cam-drin, eu hesgeuluso, neu sydd wedi profi mathau eraill o drawma. Mae maethu yn gallu bod yn heriol, ond mae hefyd yn gallu bod yn gyfoethog pan ydych chi’n gweld yr effaith gadarnhaol rydych chi’n gallu ei chael ar fywyd plentyn neu berson ifanc.

Y gallu i weithio fel rhan o dîm

Mae maethu yn ymdrech gydweithredol sy'n cynnwys gweithio gyda gweithwyr cymdeithasol, therapyddion, addysgwyr a gweithwyr proffesiynol eraill i ddiwallu anghenion y plentyn. Mae maethu yn gofyn am allu cadarn i gyfathrebu a chydweithio'n effeithiol ag eraill.

Hyblygrwydd a'r gallu i addasu

Gall maethu fod yn anrhagweladwy, a rhaid i ofalwyr addasu i amgylchiadau newidiol a bod yn hyblyg. Yn ogystal, efallai y bydd gan blant mewn gofal anghenion gwahanol, felly mae addasu a darparu’r cymorth priodol yn hollbwysig.

Amynedd a gwydnwch

Gall maethu fod yn emosiynol heriol, a rhaid i ofalwyr fod yn amyneddgar ac yn wydn wrth wynebu sefyllfaoedd anodd. Gall plant mewn gofal arddangos ymddygiad heriol, ac mae angen i ofalwyr allu ymateb gydag empathi a dealltwriaeth.

Y gallu i ddarparu amgylchedd cartref sefydlog a meithringar

Mae maethu yn gofyn am ddarparu amgylchedd cartref sefydlog a meithringar sy'n ddiogel ac yn saff i blant. Yn ogystal, rhaid i ofalwyr fod yn fodel rôl gadarnhaol a chynnig arweiniad, cymorth a gofal i'r plant yn eu gofal.

Mae maethu yn yrfa werth chweil ond heriol sy'n gofyn am ystod o rinweddau personol a sgiliau proffesiynol. Os ydych yn frwd dros wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywyd plentyn ac yn meddu ar y rhinweddau hyn, cysylltwch â ni heddiw. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Pa sgiliau allweddol sydd eu hangen?

Mae gan ein gofalwyr maeth nifer o sgiliau bywyd sy'n eu helpu i ddarparu cartref diogel a sefydlog i'w plant maeth. Mae rhai o’r sgiliau bywyd hanfodol ar gyfer gofal maeth yn cynnwys:

Sgiliau cyfathrebu

Mae angen i ofalwyr maeth gyfathrebu'n effeithiol â phlant, pobl ifanc, a'u teuluoedd, yn ogystal â gweithwyr cymdeithasol, athrawon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Amynedd a gwydnwch

Mae angen i ofalwyr maeth allu delio ag ymddygiadau a sefyllfaoedd heriol a bod yn ddigynnwrf ac yn amyneddgar dan bwysau.

Hyblygrwydd

Mae angen i ofalwyr maeth fod yn hyblyg ac yn gallu addasu i amgylchiadau newidiol, gan gynnwys darparu ar gyfer anghenion gwahanol blant a phobl ifanc.

Empathi

Mae angen i ofalwyr maeth ddeall profiadau ac emosiynau plant a phobl ifanc a dangos empathi.

Sgiliau trefnu

Rhaid i ofalwyr maeth reoli eu hamser yn effeithiol, cadw cofnodion cywir, a chynnal amgylchedd cartref diogel a threfnus.

Sgiliau eiriolaeth

Mae angen i ofalwyr maeth allu eirioli dros anghenion a hawliau’r plant a’r bobl ifanc yn eu gofal, gan gynnwys gweithio gyda gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill i sicrhau eu bod yn cael cymorth a gwasanaethau priodol.

Sensitifrwydd diwylliannol

Mae angen i ofalwyr maeth allu gwerthfawrogi a pharchu cefndiroedd a thraddodiadau diwylliannol y plant a’r bobl ifanc yn eu gofal, gan gynnwys eu credoau crefyddol, eu gofynion dietegol, ac arferion teuluol.

Gwaith tîm

Rhaid i ofalwyr maeth weithio ar y cyd â gweithwyr proffesiynol eraill, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, athrawon, a darparwyr gofal iechyd, i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’r plant a’r bobl ifanc yn eu gofal.

Nid oes gennyf gefndir mewn gofal maeth?

Mae gofalwyr maeth yn gallu dod o gefndiroedd gwahanol iawn, gan ddod ag ystod o brofiadau bywyd, ond maen nhw i gyd yn rhannu nod cyffredin o ddarparu amgylchedd cartref diogel a sefydlog i blant a phobl ifanc sydd ddim yn gallu byw gyda'u teuluoedd biolegol.

Yn gyffredinol, i ddod yn ofalwr maeth, rhaid i chi: 

  • Bod yn 21 oed o leiaf.

  • Bod mewn iechyd da, yn gorfforol ac yn emosiynol, i ddarparu gofal digonol i blant.

  • Bod ag ystafell wely sbâr yn eich cartref sy'n addas i blentyn neu berson ifanc gysgu ynddi.

  • Dangos bod gennych yr amser, yr amynedd a'r ymrwymiad i ofalu am blentyn neu berson ifanc.

  • Bod yn barod i gael archwiliadau cefndir, gan gynnwys archwiliadau cofnodion troseddol ac archwiliad o’ch gallu i weithio gyda phlant.

  • Mynychu sesiynau hyfforddi a mynd trwy broses asesu a fydd yn penderfynu ar eich addasrwydd i fod yn ofalwr maeth.

  • Bod ag amgylchedd cartref sefydlog a darparu amgylchedd diogel a meithringar i blant a phobl ifanc.

Yma yn Calon Fostering, byddwn ni gyda chi bob cam o'r ffordd. Byddwn yn eich cefnogi ac yn rhoi'r holl offer sydd eu hangen arnoch i ddod yn ofalwr maeth gwych.

Nid yw fy ngyrfa yn ymwneud â gofal maeth. Alla i faethu os ydw i mewn…

Gweithio ym maes iechyd meddwl?

Gallwch, efallai y bydd eich cefndir proffesiynol yn rhoi persbectif unigryw a set o sgiliau i chi a allai fod o fudd i blentyn maeth a allai fod wedi profi trawma neu sydd ag anghenion iechyd ymddygiadol.

Gweithio ym myd nyrsio?

Efallai y bydd eich proffesiwn yn rhoi sgiliau a phrofiad gwerthfawr i chi sy'n eich gwneud yn ofalwr maeth gwych, fel gwybodaeth feddygol a phrofiad o ofalu am eraill.

Cael eich cyflogi gan y lluoedd arfog?

Gallwch, gall teuluoedd milwrol wneud rhieni maeth gwych oherwydd yn aml mae ganddynt ymdeimlad cryf o ddyletswydd ac maent wedi arfer ag addasu i newid a goresgyn heriau.

Gweithio ym myd addysgu?

Gall eich proffesiwn addysgu roi sgiliau a phrofiad gwerthfawr i chi sy'n eich gwneud yn rhiant maeth gwych, fel amynedd, sgiliau cyfathrebu, a phrofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc.

Gofalu am bobl hŷn?

Gall eich profiad o ofalu am eraill roi sgiliau a dealltwriaeth werthfawr i chi a allai eich gwneud yn ofalwr maeth gwych.

Waeth beth fo’ch gyrfa a’ch profiad gwaith presennol, mae’n bosibl iawn y bydd gennych lawer o sgiliau trosglwyddadwy. Bydd ein rhaglen hyfforddi a datblygu yn rhoi’r hyder i chi symud ymlaen ochr yn ochr â’n goruchwyliaeth a chefnogaeth.

Faint mae gofalwyr maeth yn cael eu talu?

Gallwch ddarganfod faint y gallech gael eich talu fel gofalwr maeth drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell lwfans maethu.

cyfrifiannell lwfans
Fostering Home

Gyrfa mewn maethu gan ofalwr maeth, Daisy Doo*

''Dechreuon ni ar ein taith gyda Calon Cymru, ac rydyn ni bellach yn cael ein cefnogi, 24/7, yn cael ein gwerthfawrogi a'n paru'n berffaith â'r bobl ifanc sy'n dod i rannu ein cartref.''

Read more

Ydych chi'n meddwl y gallwch chi newid bywyd plentyn neu berson ifanc lleol sy'n fregus?

Cysylltwch heddiw am sgwrs anffurfiol, gyfeillgar gyda'n cynghorwyr maeth profiadol.

Cysylltu â ni