Gofal maeth hirdymor

Gallech ddarparu cartref sefydlog, anogol i blentyn neu berson ifanc, gan effeithio’n uniongyrchol ar eu datblygiad a’u dyfodol. Byddech yn eu trin fel rhan o'ch teulu, a'r wobr fyddai eu gweld yn ffynnu ac yn tyfu i fod yn unigolyn hapus, llwyddiannus.

Boy flaying football

Mae maethu hirdymor yn caniatáu i ofalwyr maeth ddarparu cartref saff, sefydlog a diogel i berson ifanc bregus yn barhaol. Byddan nhw'n dod yn rhan o'ch teulu lle gallant deimlo'n gartrefol ac ymgartrefu. Gallwch dorri'r cylch o esgeulustod a dylanwadu'n gadarnhaol ar eu datblygiad.  

Mae maethu hirdymor yn wahanol i fabwysiadu oherwydd bod y plentyn yn parhau o dan ofal yr awdurdod lleol. Gall y plentyn neu'r person ifanc barhau i gysylltu â'i deulu biolegol os yw'n ddiogel.  

Mae'n bosib bod plant sydd angen mynd i leoliad hirdymor eisoes wedi bod gyda sawl cartref maeth neu gartrefi gofal. Mae'r math hwn o leoliad yn cynnig sefydlogrwydd i blant a phobl ifanc a fydd yn eu helpu i dyfu gyda dyfodol mwy disglair. Yn ogystal, mae'n her hynod o werth chweil.

Gall penderfynu pa fath o ofal maeth fydd yn addas i chi fod yn anodd. Efallai y byddwch chi eisiau helpu cymaint o bobl ifanc â phosib mewn cyfnod byrrach. Edrychwch ar ein tudalen ar gofal maeth tymor byr am fwy o wybodaeth. 

Ydych chi'n meddwl y gallwch chi newid bywyd plentyn neu berson ifanc lleol sy'n fregus?

Cysylltwch heddiw am sgwrs anffurfiol, gyfeillgar gyda'n cynghorwyr maeth profiadol.

Cysylltu â ni