Lleoliadau dan Arweiniad Therapiwtig (TLP)

Gallech wneud gwahaniaeth enfawr i blentyn neu berson ifanc sydd wedi dioddef camdriniaeth neu drawma. Mae ein gwasanaeth TLP yn cyfuno’r gorau o faethu a therapi i ddarparu’r canlyniadau gorau i’r plant sydd ei angen fwyaf. Byddwn yn eich cefnogi i wneud gwahaniaeth ym mywyd plentyn.

foster children identifying shapes

Beth yw Lleoliadau dan Arweiniad Therapiwtig (TLP)?

Mae ein gwasanaeth Lleoliadau dan Arweiniad Therapiwtig (TLP) yn cynnig holl fanteision gofal maeth a therapi mewn un pecyn. Mae gan ein tîm gofal maeth TLP anhygoel hyfforddiant a chefnogaeth helaeth i helpu plant a phobl ifanc sydd ei angen fwyaf. Mae hwn yn wasanaeth heriol, ond mae'n rhoi boddhad di-ben-draw.

Mae plant yn y lleoliad hwn wedi bod trwy drawma a chamdriniaeth a gallant ddangos ymddygiad heriol. Fodd bynnag, gyda'ch anogaeth a chefnogaeth, mae'r gwasanaeth hwn yn helpu'r plant hyn i wella eu clwyfau emosiynol. Cefnogir pob lleoliad gan raglen sydd wedi'i theilwra i ddiwallu anghenion y plentyn, y person ifanc a'r teulu maethu. Mae hyn yn golygu bod ein gwasanaeth yn ymatebol ac yn caniatáu'r newid sydd ei angen, ac mae'r canlyniadau'n rhagorol.

A fyddaf yn cael fy nghefnogi?

Bydd Calon Cymru yn eich cefnogi bob cam o'r ffordd. Rydyn ni’n deall her y gwasanaeth hwn, felly rydyn ni’n darparu cefnogaeth a hyfforddiant helaeth i'n tîm TLP. Yn ogystal, mae gennych fynediad at eich Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol eich hun, a bydd gan eich plentyn ei Weithiwr Unigol ei hun. Rydyn ni hefyd yn cynnal grwpiau cymorth cymheiriaid lle gallwch chi sgwrsio â gofalwyr eraill sy'n gallu uniaethu.

Ar ben y gefnogaeth ychwanegol hon, rydym hefyd yn cynnig lwfans maethu uwch a mwy o seibiant â chyflog i ofalwyr maeth TLP. 

Alla i fod yn Ofalwr TLP?

Os ydych chi'n barod am ymuno â'n tîm arbenigol o ofalwyr maeth, rydych chi hanner ffordd yno yn barod. Fodd bynnag, mae rhai sgiliau yn ddefnyddiol iawn wrth ymdrin â'r math hwn o leoliad. Mae meddu ar synnwyr digrifwch da yn bwysig, yn ogystal â bod yn hyblyg, yn emosiynol gadarn ac yn gallu tynnu ar y sgiliau ymarferol yr ydych wedi'u hennill trwy gydol eich bywyd. Gall ein Lleoliadau dan Arweiniad Therapiwtig sicrhau canlyniadau anhygoel i blant ac effaith gadarnhaol hirbarhaol arnoch chi.

Ydych chi'n meddwl y gallwch chi newid bywyd plentyn neu berson ifanc lleol sy'n fregus?

Cysylltwch heddiw am sgwrs anffurfiol, gyfeillgar gyda'n cynghorwyr maeth profiadol.

Cysylltu â ni